Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 27 Tachwedd 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09: - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
David Sissling, Director General for Health and Social Services, Llywodraeth Cymru Alan Brace, Llywodraeth Cymru Kevin Flynn, Llywodraeth Cymru Helen Birtwhistle, Director, Welsh NHS Confederation Gillian Body, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru Mark Jeffs, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2. Cyllid Iechyd - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
2.1 Croesawodd y Cadeirydd David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant; Kevin Flynn, Cyfarwyddwr Cyflawni/Dirprwy Brif Weithredwr, GIG Cymru; ac Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid Interim.
2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y tystion.
Camau Gweithredu:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
· Rhagor o wybodaeth am y costau sy’n gysylltiedig â’r pecynnau diogelu cyflogau.
· Rhagor o wybodaeth am sut mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi arbed arian wrth leihau ei weithlu.
· Rhagor o wybodaeth am y cynnydd yn nifer y bobl hŷn sy’n cael triniaeth mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
3. Cyllid Iechyd - Tystiolaeth gan Gonffederasiwn y GIG
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru.
3.2 Holodd y Pwyllgor y tyst.
4. Papurau i'w nodi
4.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Gyllid Iechyd.
4.2 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitem 6.
6. Trafod y dystiolaeth ar Gyllid Iechyd
6.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Pwyllgor i drafod y dystiolaeth a gafodd ar Gyllid Iechyd yn ei gyfarfod nesaf.